Parcdir aeddfed mewn ardal helaeth yng nghanol dinas Caerdydd ydy Parc Bute. Mae’n cynnwys casgliad o goed o arwyddocâd cenedlaethol, nifer o ardaloedd chwarae naturiol i’r ifanc (neu ifanc eu hysbryd), canolfan addysg, tri chaffi a llawer o nodweddion garddwriaethol a bywyd gwyllt.

Mae digon i’w wneud yn y parc a gallwch gasglu amrywiaeth o daflenni i’ch galluogi i ddilyn llwybrau sy’n seiliedig ar weithgareddau neu bynciau penodol. Ychydig y tu draw i Gastell Caerdydd, yn ddigon cyfleus i gerdded iddo o brif strydoedd y ddinas a’r ganolfan ddinesig, does dim dwywaith mai Parc Bute yw “calon werdd y ddinas”. Yn llawn o nodweddion hanesyddol a bywyd gwyllt, ac yn mesur 56 hectar (sef maint 75 cae pêl-droed) mae’n un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru ac yn cynnwys cymysgedd eang o dirwedd hanesyddol, coetiroedd trefol, meysydd chwaraeon, Gardd Goed, nodweddion garddwriaethol ac afon.

Dros y canrifoedd mae’r tir yr ydym ni’n ei adnabod heddiw fel Parc Bute wedi newid llawer. Oherwydd yr afon a’r castell, mae pobl wedi sefydlu yma, ac mae eu gweithgareddau wedi gael eu hôl ar y dirwedd. O amaethyddiaeth a diwydiant, i ystâd breifat gyda gerddi pleser, i barc cyhoeddus sy’n gweddu i ddinas fodern; mae Parc Bute yn adlewyrchu hanes datblygiad Caerdydd. Mae gan y parc hanes cyfoethog ynghyd a nifer o nodweddion treftadaeth pwysig i ymweld â nhw. Mae Castell Caerdydd, y Wal Anifeiliaid enwog, Meini’r Orsedd, Cafn y Felin, Brodordy’r Brodyr Duon, Y Gamlas Gyflenwi a Phorth y Gorllewin yn ddim ond rhai esiamplau o hanes cyfoethog y parc. Cafodd Parc Bute ei enw ym 1948 i anrhydeddu’r 5ed Ardalydd Bute a oedd wedi cyflwyno’r castell a’i diroedd yn rhodd i drigolion Caerdydd flwyddyn ynghynt. Prynwyd tir ychwanegol gan Ystad Bute i ffurfio’r ardal yr ydym ni’n ei hadnabod heddiw fel Parc Bute.

Mae’r parc yn enwog am y casgliadau o goed yn ei Ardd Goed ac mae mwy na 3.000 o rywogaethau coed unigol wedi’u catalogio yn y parc. Mae’r safle yn falch iawn o’r anrhydedd o fod â’r nifer uchaf o “Goed Campus” mewn unrhyw barc cyhoeddus yn y DU. Coed Campus ydy’r enghreifftiau talaf neu lletaf o’u bath mewn unrhyw fan yn Ynysoedd Prydain. Mae’r parc yn hafan i lawer math o fywyd gwyllt, gyda rhai o’r rhywogaethau pwysicaf yn cynnwys pryfed a ffyngau, Cnocell y Coed, y Crëyr Glas, amrywiaeth o rywogaethau adar bach ac, os ydych yn lwcus, dyfrgwn! Mae’r parc wedi’i nodi yn barc rhestredig gradd 1 ar gofrestr Cadw o barciau a gerddi o bwysigrwydd hanesyddol arbennig.

Cynlluniwyd rhan ddeheuol y parc gan y pensaer tirwedd nodedig o’r 19 ganrif Andrew Pettigrew. Roedd Pettigrew yn cael ei gyflogi gan y teulu Bute i greu tiroedd i gyd-fynd â chreadigaethau naws Gothig William Burges yng Nghastell Caerdydd. Mae cymaint i’w weld yma, beth am edrych ar y map rhyngweithiol i’ch rhoi ar ben y ffordd?

 

Hanes

Mae gan y safle ganrifoedd o hanes cyfoethog, ac mae’r tir wedi newid yn sylweddol dros amser.Denwyd pobl at yr ardal gan yr afon a’r castell, ac mae eu gweithgareddau wedi llywio’r tirlun.

O amaethyddiaeth a diwydiant i ystâd breifat â gerddi pleser, i barc cyhoeddus sy’n addas ar gyfer dinas fodern; mae Parc Bute yn adlewyrchu hanes datblygiad Caerdydd.Mae datblygiadau pellach dros y blynyddoedd wedi arwain at amrywiaeth o atyniadau treftadaeth ac atyniadau i ymwelwyr.

Y Parc cyn Bute

O’r 1100au roedd Parc Bute yn eiddo i nifer o bobl wahanol, a oedd yn defnyddio’r tir mewn ffyrdd gwahanol.Roedd y castell yn taflu ei gysgod dros y tir a’r afon ac fe’i defnyddiwyd at ddibenion amaethyddiaeth, bythynnod a chrefydd.Mae’r gweithgareddau hyn yn adlewyrchu prif fasnachau Caerdydd ar y pryd, a’i phwysigrwydd fel canolfan grefyddol.

Rhoi’r ‘Bute’ ym Mharc Bute

Ym 1766, etifeddwyd y castell gan y teulu Bute, tirfeddianwyr cyfoethog, ac erbyn diwedd y 1800au roeddent wedi dechrau’r datblygu’r tir.Prynwyd y tir o amgylch y castell, a chrëwyd gerddi pleser.Bu Andrew Pettigrew yn gweithio’n agos gyda’r pensaer William Burgess i greu tirlun a oedd yn adlewyrchu addurniadau’r castell.Roedd datblygiad yr ystâd yn adlewyrchu cyfoeth ac uchelgais newydd Caerdydd ar y pryd.

Parc y Bobl

Ym 1947 rhoddodd Pumed Ardalydd Bute y Castell a’r tiroedd i bobl Caerdydd, a chafodd y tir ei droi’n barc cyhoeddus.Heddiw, dyma ‘galon werdd’ y ddinas ac mae’n gynefin i fywyd gwyllt ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr.