5 rheswm pam mai Parc Bute yw’r man delfrydol ar gyfer Polyn y Siarter Goed sy’n dathlu effaith coed ar ddiwylliant

Cafodd y Polyn Cymreig, a lansiwyd gan y Siarter Goed, Coedwigoedd a Phobl, ei ddatgelu ym Mharc Bute ddydd Sadwrn 25 Tachwedd. Drwy hynny, dewiswyd Caerdydd yn un o 10 dinas ledled y Deyrnas Unedig i groesawu polyn pren cerfiedig, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli un o egwyddorion y Siarter. O ystyried diwylliant cyfoethog Cymru, nid yw’n syndod bod y Polyn Cymreig yn portreadu’r egwyddor sy’n cydnabod yr effaith y mae coed yn ei chael ar ddiwylliant a’u gallu i ysbrydoli pobl. Dyma 5 rheswm sy’n egluro pa mor addas yw’r ychwanegiad diweddaraf hwn i Barc Bute.

Hunaniaeth Leol

Ystyrir Caerdydd yn brifddinas goed y Deyrnas Unedig. Mae’r amrywiaeth a geir ym Mharc Bute ac ym Mharc y Rhath yn gwneud i brifddinas Cymru sefyll allan o blith dinasoedd eraill y DU. Mae’r parciau wedi dod yn rhan allweddol o ddiwylliant Caerdydd, ac maent wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gwyliau. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas ac yn un o hoff fannau’r dinasyddion lleol, mae Parc Bute wedi datblygu yn galon werdd i Gaerdydd. Mae’r coed yn y parciau amrywiol wedi dod yn rhan annatod o ddiwylliant y ddinas, gan gryfhau’r hunaniaeth leol.

Hanes Caerdydd

Plannwyd nifer o’r parciau a’r coed a welir ar draws Caerdydd gan y teulu Bute, a chafodd Parc Bute ei roi yn rhodd i’r ddinas gan bumed Ardalydd Bute ym 1947. Yn sgil hynny, mae’r coed ar draws Caerdydd yn dathlu treftadaeth gyfoethog y ddinas a’r teulu Bute, sydd wedi cael effaith enfawr ar Gaerdydd. Caiff y coed eu hystyried yn rhan o hanes a threftadaeth fyw Caerdydd.

Cymuned ac Undod

Mae’r cariad at goed a rennir ar draws Gymru gyfan wedi arwain at wahanol brojectau i gefnogi’r gymuned ac i ddathlu coed. Yr elusen Gymreig, Size of Wales, oedd y cyntaf i ddiogelu coetir o faint ei gwlad ei hun ar ôl plannu 1m o goed yn Uganda. Mae’r coed yn lleddfu’r pwysau a roddir ar bobl ac adnoddau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Yn benodol, maen nhw’n darparu cyflenwad cynaliadwy o fwyd, tanwydd a lloches, yn ogystal ag incymau gwell, sy’n lliniaru tlodi. Mae’r coed yn amddiffyn cymunedau lleol rhag effeithiau erydiad pridd a achosir gan ddatgoedwigo a allai arwain at dirlithriadau marwol. Mae’r project hwn hefyd wedi plannu coeden am bob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru drwy gynllun “Plant!” Llywodraeth Cymru. Mae projectau fel hyn yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i anrhydeddu grym a phwysigrwydd coetiroedd.

Hud a Harddwch

Fel y gwelir o amgylch Caerdydd a pharciau’r ddinas, mae coed yn gwella cymeriad y ddinas drwy gydol y pedwar tymor. Hyd yn oed pan dorrir pennau’r coed am resymau sy’n ymwneud â diogelwch, mae Caerdydd yn gwybod sut i barhau i ddathlu eu harddwch. Ceir enghraifft o hyn yn Nhaith y Cerfluniau Pren ym Mharc Bute, lle cafodd artistiaid lleol eu hysbrydoli gan themâu treftadaeth Gymreig. Mae’r cerfluniau hyn yn arddangos dyfeisgarwch artistig, gan dynnu sylw at harddwch tragwyddol y coed.

Y Celfyddydau a Chwedlau

Mae swyn y coed a’u straeon wedi cael eu hadlewyrchu yn chwedlau Cymreig ers amser maith. Pe gallai’r coed yng Nghymru siarad, dychmygwch yr holl straeon y byddent yn eu hadrodd. Wrth edrych yn fanylach, mae rhai o’r coed wir yn dangos eu hanes i ni ac yn adrodd y chwedlau y maent wedi’u seilio arnynt. Mae cerflun derw Coed Tregib yng Nghaerfyrddin, er enghraifft, yn adrodd hanes coeden felltigedig a’r perygl y byddai’r dref ynddo petai’r goeden hon yn cael ei thorri. Yn debyg i hyn, cerfiwyd hen goeden ym Mharc Bute i ddarlunio ffigur Dwynwen, Duwies Cariad Cymru, yn barod i swyno’r parc a’i ymwelwyr.

 

Dyddiad: 14/12/2017

Gan: Tirza Kreuwel