Gelwir y dŵr ar hyd ochr orllewinol Castell Caerdydd yn Gafn y Felin.Mae ‘cafn’ yn enw ar gorff dŵr a wnaed gan ddyn, ac yn yr achos hwn fe’i crëwyd i bweru melin.

Mae’r dŵr yn dilyn cwrs nant o’r 12fed ganrif, a grëwyd i ddod â dŵr o Afon Taf i bweru melinau ŷd.Yn ôl sawl cofnod hanesyddol, roedd melinau yn yr ardal i’r de o Borth y Gorllewin, Caerdydd am ganrifoedd.Cawsant eu defnyddio hefyd i felino nwyddau eraill dros y blynyddoedd, ond dirywio oedd eu tynged yn y pen draw.

Adeiladwyd Camlas Gyflenwi’r Dociau yng nghanol y 19eg ganrif, a chrëwyd argae i newid cyfeiriad y dŵr i’r gogledd o Gastell Caerdydd.Cafodd y cafn ei wahanu o’i darddiad, ac fe’i trawsnewidiwyd yn bwll dŵr a ffos addurniadol ar hyd wal orllewinol y castell.

Roedd dŵr yn y cafn hyd at ddiwedd y 1970au, ond cafodd ei ddraenio ar ôl i rywun foddi yno a phroblemau llifogydd yng Ngwesty’r Angel ar Heol y Castell.Yna dechreuodd yr ardal ddirywio.Dechreuodd y llystyfiant dyfu’n wyllt ac roedd y safle’n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Adferwyd y safle yn 2013 fel rhan o Broject Adfer Parc Bute a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a gwelwyd dŵr yno unwaith eto.Adeiladwyd dau argae newydd fel rhan o’r gwaith, a gosodwyd leinin yno i rwystro’r dŵr rhag dianc.Caiff y dŵr ei gylchdroi gan bwmp, a chaiff ei awyru gan bwll dŵr ar lefel uwch a rhaeadr fechan.

Ymwelwch â’r safle am olygfeydd prydferth ac adlewyrchiadau o Gastell Caerdydd.Ceir hefyd nifer o baneli dehongli sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am hanes y safle ar Bont Porth y Gorllewin.