Loading Events

« All Events

Partïon Gorau Erioed – Paradwys Moroco

November 30 @ 6:00 pm - December 16 @ 1:00 pm

| £37

Ymunwch â ni dros y Nadolig yng Ngerddi Sophia a manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am fythau a hud a lledrith Paradwys Moroco.

Byddwn yn dwyn ysbrydoliaeth o ddinas Marrakech lle mae canrifoedd o lwythau Bedouin a masnachwyr sidan wedi rhannu cyfrinachau mewn marchnadoedd yn llawn sbeisys, sidan ac arian rhwng yr anialwch crasboeth a Môr y Canoldir.

Bydd lampau olew persawrus ac Acrobatiaid Arabaidd yn goleuo eich taith wrth i chi gael eich tywys dros y bont bren ymysg ffynhonnau heddychlon a cherfluniau efydd cain i ddinas fywiog Marrakech.

Dewch i herian eich synhwyrau yn y bazaar ecsotig hwn gyda lliwiau cyfoethog a deunyddiau hynod.

Mwynhewch ystod o ganapés poeth ac oer blasus wrth ymlacio gyda diod yn ein barrau â themâu unigryw.  Dewch i mewn i’r ardal fwyta â choed palmwydd a mwynhewch bryd pedwar cwrs â naws al fresco o dan y nenfwd llachar.  Mwynhewch adloniant gan y criw o berfformwyr awyrol hypnotig yn dawnsio uwch eich pennau, a pharatowch am ddiweddglo ardderchog gan yr holl acrobatiaid, dawnswyr a diddanwyr.  Yn hwyrach ymlaen, cewch ymlacio yn ein Kasbah â chlustogau gyda chwrw Casablanca, neidio ar y ceir taro neu ddawnsio trwy’r nos!

Mae Parti Grŵp Cymysg neu Ddyddiadau Parti Arbennig ar gael ar gyfer rhwng 8 a 1000 o westeion.

Dyddiadau:  30 Tachwedd tan 16 Rhagfyr 2018

Prisiau’n dechrau o £37.95 y pen

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle ewch i: https://www.bestpartiesever.com/christmas-parties-cardiff

Details

Start:
November 30 @ 6:00 pm
End:
December 16 @ 1:00 pm
Cost:
£37
Website:
http:// https://www.bestpartiesever.com/christmas-parties-cardiff

Organizer

Best Parties Ever
Website:
www.bestpartiesever.com

Venue

Sophia Gardens