Ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, croesawodd Parc Bute ei ased ddiweddaraf: polyn pren 15 troedfedd o daldra. Rhoddwyd y polyn gan Goed Cadw a lansiodd y Siarter Goed, Coedwigoedd a Phobl yn ddiweddar.

 

Mae Parc Bute yn falch i gael bod yn rhan o ddigwyddiad mor hanesyddol ac roedd pob math o ddigwyddiadau i garwyr coed ifanc a hen i ddathlu’r polyn newydd a’r seremoni ddadorchuddio. Mae Polyn y Siarter yn cynrychioli un o’r deg egwyddor yn y Siarter Goed, Coedwigoedd a Phobl. Yn benodol mae’n dathlu ac yn cynrychioli grym coed i ysbrydoli.

Ar y Polyn Siarter ym Mharc Bute mae cerdd Sohpie Mckeand wedi’i cherfio. Comisiynwyd y gerdd yn rhan o’r project ehangach a gafodd gymorth gan Goed Cadw i wrando’n fwy gofalus ar ein coed i glywed eu straeon.  Perfformiodd Sophie, Bardd Ieuenctid Cymru, ei cherdd ar ôl i’r polyn gael ei ddadorchuddio a dwedodd mai “ym mharc Bute rwy’n dod o hyd i’m hysbrydoliaeth”.

 

Yn y Daith Gerdded Drwy’r Coed i’r Teulu ar ddechrau’r digwyddiad, crwydrodd plant drwy’r gwahanol goed ym Mharc Bute. Er gwaethaf yr oerfel, gwnaeth prydferthwch lliwiau’r dail yn yr haul lonni calon pob un. Tywysodd Meriel Jones, y Swyddog Addysg, y plant a’r oedolion drwy Barc Bute gan esbonio nodweddion unigryw’r coed ar hyd y daith, a chan ateb cwestiynau gan anturwyr brwdfrydig.

 

Mwynhaodd pawb y daith gerdded; cafodd teuluoedd brofiad o brydferthwch a phwysigrwydd coed, y cyfle i gyffwrdd eu gwahanol foncyffion a’u rhisgl amrywiol ac i ddysgu ffeithiau am coed, er enghraifft ‘mae rhai coed megis coed coch hyd yn oed yn gallu gwrthsefyll tân gan eu bod mor gryf.’

 

Yn ystod y daith, roedd pawb yn brysur gyda’r gweithgareddau. Roedd plant yn creu ‘cebabs dail’ drwy gasglu dail lliwgar ar hyd y ffordd.  Cafodd teuluoedd ddarnau o glai chwarae naturiol a wnaed gartref. Defnyddion nhw’r clai hwn i fywiogi coed gydag wynebau, madarch a lindys.

 

Ymddiddorodd ambell un yn arbennig yn y coed pencampwr o amgylch y parc, sydd â thagiau arbennig. Mae coed pencampwr yn cynnwys yr enghreifftiau talaf, neu’r enghreifftiau mwyaf o drwch o fesur hynny 1.5m uwchben y tir, sydd wedi’u cofnodi o rywogaeth goeden unigol. Mae prinder yn gallu bod yn sail dros ystyried coed yn bencampwyr.

A hithau’n oer, roedd modd i deuluoedd dwymo a mwynhau lluniaeth yn Ystafelloedd Te Pettigrew. Yn ogystal â’r gwin cynnes heb alcohol, roedd amrywiaeth o frownis a thoesau i ddewis o’u plith ac roedd cnau castan rhost yn creu awyrgylch clud a chroesawgar.

Dechreuodd Taith Gerdded Dymhorol am hanner dydd ar gyfer unrhyw un oedd yn ymddiddori mewn coed ac oedd am ddysgu mwy, yng nghwmni Arglwydd Faer Caerdydd. Malcolm Frazer arweiniodd y daith, swyddog coed i Gyngor Caerdydd ers talwm, oedd yn gallu rhannu straeon difyr am rai o’r coed, eu diben a lle y câi eu plannu fel arfer. Pwy fyddai wedi dyfalu y câi mynwentydd eu hadeiladu’n benodol o amgylch ywenni? Roedd y daith gerdded yn llawn gwybodaeth hyd yn oed i’r sawl a oedd eisoes yn eithaf cyfarwydd â’r coed ym Mharc Bute.

Cyn y seremoni i ddadorchuddio Polyn y Siarter Goed, bu Pibau Planed yn llenwi’r awyr â cherddoriaeth werin wrth i bawb gynhesu gyda lluniaeth o’r ystafelloedd te. Yn dilyn hynny, cafodd pawb ei dywys gan y cerddor i Bolyn y Siarter Goed ar gyfer y seremoni Ddadorchuddio.

Yma, cafodd pawb groeso gan Reolwr Parc Bute, Julia Sas, cyn anerchiad yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Derbyshire. Bu Jerry Langford, Cydarwyddwr Coed Cadw’n siarad ac yn rhannu gwybodaeth am y Siarter Goed, cyn croesawi Sophie McKeand i berfformio ei cherdd, ffrwyth project “Y Straeon a Adroddent”.

 

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Bu’n gyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu coed a choetiroedd, ymddwyn mewn modd cyfrifol a chynaliadwy er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael mwyhau Parc Bute fel pawb a ddaeth i’r Digwyddiad Dathlu’r Siarter Goed ddydd Sadwrn.

I gloi’r digwyddiad, cyhoeddodd Julia Sas, Rheolwr Parc Bute, yr arddangosfa a ddilynai, sef “Y Straeon a Ddywedent” yn Amgueddfa Stori Caerdydd. Bydd yr arddangosfa gyfareddol yn olrhain hanes Parc Bute ac oes un o goed hynaf y Parc, castanwydden bêr a gwympodd ym mis Ionawr 2017.

 

Bydd yn agor rhwng dydd Sadwrn 2 Rhagfyr a 25 Chwefror, 10am tan 4pm, yn yr Hen Lyfrgell yn yr Aes.

 

08 Rhagfyr 2017

Gan: Tirza Kreuwel